Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 28 Tachwedd 2022
Amser:
09.30 -
12.04
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13054
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS |
|
Tystion: |
James Drummond, Corff Corfforaethol Seneddol yr Alban Billy McLaren, Scottish Lobbying Registrar Anthony Murray, Standards in Public Office Commission Harry Rich, Office of the Registrar of Consultant Lobbyists |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Nicole Haylor-Mott (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant na dirprwyon.
2 Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 1
2.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod trefniadau lobïo yn yr Alban gyda Chofrestrydd Lobïo a Chofrestrydd Lobïo Cynorthwyol Senedd yr Alban.
3 Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 2
3.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod trefniadau lobïo yng Ngweriniaeth Iwerddon gyda Phennaeth Cynorthwyol yr Uned Rheoleiddio Lobïo, y Comisiwn Safonau Swyddi Cyhoeddus, Iwerddon.
4 Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 3
4.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod trefniadau lobïo yn San Steffan gyda’r Cofrestrydd Lobïwyr Ymgynghorol, San Steffan.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
5.1 Cafodd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42 ei gytuno.
6 Ymchwiliad i Lobïo: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Papurau i'w nodi - Llythyr gan y Prif Weithredwr
7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weithredwr a chytunodd i ymateb yn ysgrifenedig.